Mae Colin a Marianne yn darparu beicio modur traws gwlad yng Nghanolbarth Cymru a de Eryri, gan gyflenwi beiciau modur Honda CRF250L a dillad amddiffynnol, gydol y flwyddyn. Bydd eich diwrnod yn gymysgedd o darmac a ffyrdd annosbarthedig gyda graean, craig, glaswellt, mwd, pyllau a chroesi nentydd. Rydyn ni’n esgyn llawer bryn a rhiw ac mae’r golygfeydd yn odidog! Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud eich taith gyda ni mor bleserus â phosibl, ond un fydd yn eich herio.
Llogi Beic Modur
Mae ein Hondas yn ddelfrydol ar gyfer cyflwyniad i feicio modur traws gwlad. Rydym yn croesawu beicwyr sydd ag ychydig neu ddim profiad o feicio modur traws gwlad; mae angen i chi allu reidio beic modur, dal trwydded lawn a bod dros 24 mlwydd oed.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.











