Dyma i chi ychydig bach o hanes Tregaronjacs a sut ddaeth fy nghardiau a’m cynnyrch i fodolaeth.
Fy enw i yw Jackie ac rwy’n byw ac yn gwneud fy nghynnyrch o fy nghartref yn Nhregaron, tref farchnad fechan yng nghanolbarth Cymru sydd a hanes diddorol iddi. Mae’n enwog am ei ‘Phorthmyn’ a fyddai’n heidio eu da byw o Dregaron i Barnett yn Llundain.
Ar y prif sgwâr yn Nhregaron gyda’i gefn at Westy’r Talbot saif cerflun o Henry Richards, gwleidydd pwysig yn ei ddydd. Mae’n syllu ar draws y sgwâr tuag at gerflun o ‘Twm Sion Cati’ (dihiryn a drodd yn arwr) sy’n sbecian o du ôl i foncyff. A dyna i chi hefyd stori’r eliffant sydd wedi’i gladdu y tu ôl i Westy’r Talbot.
Cefndir
Rwy’n wreiddiol o bentref bach glan môr ger Brighton yn Sussex ac mi wnes astudio celf, ac yna ffasiwn a thecstilau yng Ngholeg Celf Brighton. Dilynais lwybr dra gwahanol o ran gyrfa, yn gwnïo a chrefftio yn fy amser hamdden.
Dechrau’r Ladis Cymraeg
Ar gyfer fy mhen-blwydd ychydig flynyddoedd yn ôl gwnaeth ffrind glustog fechan i mi gyda Ladi Gymraeg arni – roeddwn wedi gwirioni a dyna ddechrau datblygu’r holl ddoliau, y mygiau, y matiau diod, y clustogau a’r cardiau.
Arweiniodd yr ymateb ffafriol iddynt mewn ffeiriau crefft lleol at gynhyrchu mwy o glustogau, doliau, cardiau a mygiau. Yna daeth y ffeltio, cefais fy swyno gan y lluniau hyfryd y gellid eu cynhyrchu gan ddefnyddio gwlân yn hytrach na phaent.
Ysbrydoliaeth
Mae llawer o’r ysbrydoliaeth i’m gwaith yn deillio o’r tirlun prydferth o’m cwmpas – y bryniau, afonydd, bythynnod, da byw a bywyd bob dydd. O ffyddlondeb y cŵn defaid tuag at eu ffermwyr wrth weithio ochr yn ochr a hwy neu’n reidio gyda hwy ar gefn beic cwad y fferm.
Nid oes fyth ddigon o oriau yn y dydd i ddod i ben a’r lluniau a’r cardiau, yr addurniadau Nadolig, y ddol fach Gymreig a’r merched wedi’u ffeltio o wlân.
Fy Nghynnyrch a ble i gael gafael arno
Cardiau, wedi’u hargraffu ac appliqué, fframiau ffelt appliqué, paentiadau wedi’u ffeltio, clustogau appliqué, mygiau, matiau diod, matiau lle, merched gwlân wedi’u ffeltio ac addurniadau Nadolig Ladis Cymraeg.
Siop Etsy https://tregaronjacs.etsy.com
Siop Amgueddfa Ceredigion
Facebook
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.



