Ydych chi’n ddigon dewr i ymgymryd â’n dau brofiad dianc newydd sbon? Mentrwch mewn i’n hystafelloedd dianc a rhowch gynnig ar ddatrys amrywiaeth cyffrous o gliwiau cryptig er mwyn dianc! Dim ond 60 munud sydd gennych, felly rhaid i chi a’ch tîm ddatrys yr amrywiaeth o gliwiau, cracio’r codau – a churo’r amserydd er mwyn dianc.
Wnaethoch gael yr ysfa i wybod sut brofiad fyddai dwyn diemwnt sy’n werth miliynau o bunnoedd? Peidiwch meddwl mwy, gan y bydd Ultimate Xscape yn cynnig cyfle i chi ddianc o’r ‘Diamond Heist’, un o’n hystafelloedd dianc newydd sbon. A allwch chi gracio’r cod a chyflawni lladrad y ganrif, neu a fyddwch chi’n cael eich dal ac yn dod â’ch gyrfa fel lladron banc proffesiynol i ben?
Mae ein hail ystafell ddianc newydd yn cludo chwaraewyr yn ôl i strydoedd tywyll ac amheus Llundain Oes Fictoria er mwyn profi antur wefreiddiol ‘Jack The Ripper.’ Mae’n 1888, a’ch tasg chi yw darganfod pwy yn union yw Jack The Ripper. A allwch chi ddod a’r holl gliwiau at ei gilydd, datrys yr achos, a darganfod pwy ydyw cyn iddo’ch herlid?
Mae Ultimate Xscape Aberystwyth yn andros o hwyl ar gyfer ffrindiau, teulu a chydweithwyr. Mae lle i hyd at 6 person ym mhob ystafell, ac mae ystod o fesurau diogelwch COVID-19 ar waith i sicrhau bod eich ymweliad yn brofiad hwyliog a diogel. Archebwch eich lle ar-lein yn www.ultimatexscape.co.uk, neu rhowch alwad i ni ar 01970 890 620.
Does dim amser i golli – rhowch eich meddwl ar waith i geisio trechu ein hystafelloedd dianc dieflig…
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.