Croeso i blant, croeso i gwn, cyfleusterau anabl, WiFi, archebu arlein, trwydded alcohol
Mae Y Ffarmers yn dafarn ciniawa wledig, hardd ym mhentref tlws Llanfihangel y Creuddyn. Mae’r adeilad wedi’i adnewyddu’n llwyr i safon uchel ar ôl tân yn 2018. Tafarn rhydd-ddaliadiadol yw Y Ffarmers sy’n eiddo i bobl leol a sy’n cyflogi pobl leol, llawer ohonynt wedi’u magu yn y pentref.
Mae ein holl fwyd yn Fwyd Cartref, gyda’n bwydlenni’n newid yn rheolaidd ac yn defnyddio cynhwysion lleol lle bynnag y bo modd. Rydym yn darparu ystod eang o gwrw iawn, seidr iawn, gwinoedd cain a diodydd crefft sy’n ategu at ein bwydlenni. Gweinir Cinio Dydd Sul Traddodiadol bob dydd Sul.
Rydym yn croesawu teuluoedd â phlant ac mae bwydlen plant ar gael. Mae croeso i gŵn yn y bar yn ogystal â’n Gardd Gwrw hardd – rhan ohoni wedi’i chynhesu a than do.
Mae Y Ffarmers yn brysur iawn yn ystod adegau prysur a rydym yn argymell eich bod yn rhoi galwad i ni cyn i chi ddod fel y gallwn gadw bwrdd ar eich cyfer.
Ewch i’n tudalen Facebook i weld y lluniau a’r bwydlenni diweddaraf @yffarmers.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Tripadvisor.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.











