“Tafarn dda iawn ydy Y Talbot Arms ‘na – maen nhw bob amser yn falch o weld boneddigion o Loegr. Profais adloniant da iawn yn Nhafarn Tregaron, cefais swper rhagorol a gwely cyfforddus. ”
George Borrow, Wild Wales, Gorffennaf 1854
Croeso i Y Talbot
Credwn nad yw nodweddion tafarn dda wedi newid llawer dros y blynyddoedd ac y bydd ein gwesteion heddiw yn adleisio geiriau George Borrow dros 150 mlynedd yn ôl.
Bwyta, Yfed ac Aros yn Y Talbot
Rydym yn cynnig bwyd a diod rhagorol, gwely cyfforddus a chroeso cynnes.
Mae gan Y Talbot lawer i’w gynnig, p’un a ydych chi’n ymweld am ddiod sydyn, pryd hamddenol, gwyliau byr, cinio dathlu neu gyfarfod busnes. Yn ogystal a’n tafarn glyd, llawn cymeriad, gall gwesteion fwynhau ein bwyty cyfoes, ystafelloedd gwely trawiadol, ystafelloedd digwyddiadau, gerddi syfrdanol a pharcio gwesteion.
Mae Y Talbot wedi cael ei adnewyddu’n llwyr gyda’r holl gyfleusterau angenrheidiol ar gyfer y teithiwr craff, er mwyn sicrhau pob cysur yn ystod eich arhosiad.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.





