Arddangosfa Myanchlog Fawr Exhibition
Ym mis Gorffennaf 2021 agorodd yr Ymddiriedolaeth arddangosfa ‘Mynachlog Fawr mewn 30 o wrthrychau’ i adrodd hanes y fferm drwy’r canrifoedd.
Mae’n cynnwys amrywiaeth o wrthrychau a dogfennau o’r ffermdy ac adeiladau’r fferm, mae’n rhoi cyfle i ymwelwyr o bob oed archwilio hanes cymdeithasol ac amaethyddol y tŷ a’r ardal leol. Mae hefyd yn cynnwys ein profiad addysgol Virtual Histories rhyngweithiol. Mae hyn yn galluogi ymwelwyr i deithio yn ôl i weld diwrnod ym mywyd fferm Mynachlog Fawr 1947, a’r Abaty yn 1238.
Mae’r adeilad hefyd yn lle i ymwelwyr ymlacio, gyda chadeiriau wrth ymyl y lle tân godidog, lluniaeth hunanwasanaeth (te, coffi, siocled poeth, te llysieuol a wafflau taffi Tregroes), a detholiad o lyfrau ail law a hanes lleol ar gael i’w darllen.
Ar agor o 11-3 Mercher i ddydd Sadwrn. Edrychwch ar ein gwefan am amseroedd agor tymhorol: Ewch i ni (strataflorida.org.uk)
Cyrsiau
Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyrsiau cymunedol, o ffotograffiaeth nos, i hanes Cymru ac ysgrifennu creadigol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: Cyrsiau a digwyddiadau (strataflorida.org.uk)
Ysgol Maes Archaeoleg Ystrad Fflur
Mae ein Hysgol Maes Archaeoleg Ystrad Fflur flynyddol, yn rhedeg bob mis Mehefin i Orffennaf, a gallwch ymuno â ni am y diwrnod neu am 1-4 wythnos a chael cyfle i gloddio gweddillion cyfadeilad abaty Sistersaidd y 12fed Ganrif. Croeso i bawb, dim angen profiad blaenorol. Mwy o wybodaeth yma: Archaeology Field School (strataflorida.org.uk)
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.