Get Directions
Mae’n hawdd cyrraedd ardal Pumlumon (Plynlimon) mewn car, ar drên neu ar fws.
Mewn Car:
O Ogledd Cymru:
Dilynwch yr A470 (neu ffordd yr arfordir) i Ddolgellau, yna’r A487 i Aberystwyth.
O Ogledd Lloegr:
Dilynwch yr arwyddion o Gaer i Wrecsam, yna Croesoswallt, Y Trallwng ac Aberystwyth.
Y naill ffordd – ewch yn syth i Aberystwyth, neu cymerwch yr A4159 yn Bow Street. Gall y rhai mwy anturiaethus ddilyn y siwrne mwy olygfaol o Dal-y-Bont.
O Ganolbarth Lloegr:
Mae’n llai na 2 awr o siwrne o Ganolbarth Lloegr. O’r M54 / A5, dilynwch arwyddion o’r Amwythig i’r Trallwng ac yna Aberystwyth.
O Dde Lloegr:
M5 i Birmingham ac yna  dilyn yr un siwrne ac o Ganolbarth Lloegr uchod.
O Dde Cymru:
M4 i Gaerfyrddin, A485 i Llanbedr Pont Steffan, A482 i Aberaeron yna dilyn ffordd yr arfordir i Aberystwyth. Pe dymunir, medrwch ddilyn Ffyrdd  Mwy  Golygfaol yr A485 neu’r A4120 cyn cyrraedd Aberystwyth.
Dim ond 10 munud mewn car ydyw wedyn o Aberystwyth. Neu fe allwch ddilyn  Ffordd Mwy Golygfaol  .
Ar drên:
Mae cysylltiadau rheilffordd yn cydgyfarfod yn Aberystwyth o bob rhan o’r DU trwy gyfuniad o gysylltiadau Prif Llinellau Rheilffordd a Llinellau Leol. Gwiriwch ymlaen llaw yn eich Gorsaf agosaf. Trainline
Ar fws:
Mae Gwasanaethau Bysiau Preifat a National Express yn cyflenwi gwasanaeth rheolaidd i’r ardal. Gwiriwch â’ch gorsaf lleol. Mae gwasanaethau bws yn dod i ben yn Aberystwyth. Mae arhosfan National Express hefyd ar gael ym mhentref Ponterwyd.
Mae Rheilffordd Cwm Rheidol  yn cynnig taith olygfaol rheolaidd i deithwyr o Orsaf Reilffordd Aberystwyth i Pontarfynach. Mae gwasanaeth bws lleol cynhwysfawr ac helaeth y tu allan i Orsaf Rheilffordd Aberystwyth yn darparu mynediad i lawer o leoliadau gwledig yr ardal. Mae safle tacsi hefyd wrth yr orsaf reilffordd.