Ganed a magwyd fi ym mhentref Cefnllwyd ger Aberystwyth.Astudiaus yng ngholegau Caerfyrddin a Chaerdydd gan arbenigo mewn argraffu. Wedi cyfnod o deithio dychwelais ir canolbarth lle dwin gwneud bywoliaeth fel artist proffesiynol llawn amser ac yn arddangos yn helaeth yma yng Nghymru a dros y dwr.
Yn ogystal ar gwaith sydd a chysylltiad amaethyddol fel y gyfres Nodau Clustiau Defaid dwi hefyd wedi bod wrthi ers 10 mlynedd yn datblygu cyfres yn seiliedig ar Y Ladi Gymreig. Bellach ma gen i ystod cyffrous o gynnyrch Cymreig trawiadol iw gynnig yn fy siop Etsy: https://www.etsy.com/uk/shop/SiopRuthJen
O waith celf gwreiddiol,i brints cyfyngedig,cardiau,calendrau,llieiniau sychu llestri ,addurniadau Nadolig a llawer mwy!
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.











