Wrth droed Pumlumon Fawr gorwedd cronfa ddŵr ac argae trawiadol Nant-y-Moch; unwaith, 600 mlynedd yn ôl, yn faes y gad brwydr enwog a gwaedlyd. Cafodd y dyffryn ei argae i greu cronfa ddŵr sy’n dal tua 26000 miliwn litr o ddŵr. Mae twnnel 4 cilomedr yn cyfleu’r dŵr 350 metr i lawr i’r Orsaf Bŵer yn Nghwm Rheidol islaw.
Unodd Owain Glyndwr Gymru gyfan er mwyn gwrthwynebu gormes unbenaethol Brenin Harri’r Pedwerydd ar y genedl. Yma, bu i Owain a llond dwrn bychan o’i ddilynwyr ymgysylltu a threchu byddin anferth Lloegr oedd a dros 10,000 o ddynion.
Yma fe welwch heneb fach i’r gwŷr a fu’n brwydro a fu farw yma. Gallwch syllu ar y golygfeydd cyfareddol, cerdded i lawr i’r argae ei hun neu gyrru o amgylch y llyn ac ar draws y mynyddoedd.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.