Mae Eglwys Newydd yr Hafod, sydd wedi’i chysegru i Sant Mihangel a’r Holl Angylion wedi’i lleoli mewn ardal dawel, ynysig ond hyfryd ar ffin ystâd hudolus yr Hafod. Yn 1803 comisiynwyd James Wyatt gan Thomas Johnes y perhennog, i ddylunio eglwys newydd drawiadol gyda llawer o nodweddion anarferol, megis y ffenestr ‘ddwyreiniol’ sydd yn wynebu’r de-orllewin, wedi’i gwneud gyda gwydr lliw Fflemeg o’r unfed ganrif ar bymtheg o Wastadeddau Ewrop; y bedyddfaen a gomisiynwyd o stiwdios enwog Eleanor Coade yn Llundain wedi’u haddurno â rhosod cerfiedig; Arfbais Johnes a ffigurau sy’n cynrychioli’r Prif Rinweddau. Roedd yn wir yn Eglwys Gothig hardd.
Yn anffodus, ym mis Ebrill 1932 dinistriwyd llawer o’r to a’r addasiadau mewnol Gothig gan dân.
Goruchwyliwyd y gwaith adnewyddu rhagorol a wnaed gan W. D. Caroe. Ef oedd yn gyfrifol am ddylunio’r to derw wedi’i galchu siâp casgen, deniadol, ynghyd â’r dodrefn a’r addurniadau cain, hynod o fanwl sydd i’w gweld heddiw law yn llaw â’r ychydig o’r nodweddion gwreiddiol a oroesodd, sydd i’w gweld yn yr eglwys heddiw.
Unwaith eto, mae’r adeilad rhestredig gradd 11 * hardd hwn wedi’i adfer yn helaeth a’i adnewyddu’n fewnol.
Bellach mae arddangosfa ddiddorol o baneli dehongli yn darlunio hanes yr Eglwys ac Ystâd Hafod. Bu llawer o ymchwilio i hanes cymdeithasol gan aelodau eglwysig a’r gymuned leol; mae yna hefyd giosg sgrin gyffwrdd sy’n galluogi ymwelwyr sy’n olrhain hanes teulu i ddod o hyd i’w manylion teuluol lleol yn hawdd.
Mae’r eglwys (gyda’r defnydd o gyfleustra cyhoeddus) ar agor bob dydd rhwng 10.00 a.m. a 4.30 p.m. o’r Pasg hyd ddiwedd mis Hydref.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.