Place Category: Y Gwneuthurwyr
Mae Mêl Mynach yn fenter cadw gwenyn leol sydd wedi’i lleoli ym Mhontarfynach yng nghanol Mynyddoedd Cambria.
Mae’r gwenyn mêl yn chwilio am neithdar a phaill o’r blodau gwyllt yn y caeau a’r gwrychoedd cyfagos. Mae’r amrywiaeth o flodau drwy gydol y gwanwyn a’r haf yn cynhyrchu mêl pur a naturiol gyda blas arbennig. Mae’r mêl yn cael ei gasglu o’r cychod gwenyn ddiwedd yr haf, gan sicrhau bod gan y gwenyn ddigon iddyn nhw eu hunain ar gyfer y gaeaf. Ar wahân i hidlo’r mêl yn ysgafn i dynnu darnau o gŵyr, ni wneir unrhyw beth arall iddo, felly gallwch fwynhau cynnyrch naturiol yn union fel y byddai’r gwenyn wedi’i ddymuno.
Loading...
No Records Found
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Maps failed to load
Sorry, unable to load the Maps API.







