Pyllau Pysgota Teifi (Cymdeithas Bysgota Tregaron Angling Association)
Mae Llyn Egnant, Llyn Hir, a Llyn Teifi yn llynnoedd ucheldirol, mewn lleoliad rhyfeddol, yn agos at ei gilydd, ar ddiwedd ffordd fynyddig, tua phum milltir o bentref Ffair Rhos ychydig oddi ar y briffordd rhwng Pontrhydygroes a Pontrhydfendigaid. Wedi’u disgrifio gan CB Tregaron, sy’n eu rheoli, fel “pysgodfa anghysbell i’r pysgotwr craff, dim gwerthwyr pysgod os gwelwch yn dda.” Maent yn cynnig cyfle i’r pysgotwr sy’n ymweld bysgota am frithyll brown gwyllt o safon yn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell canolbarth Cymru; lleoliad golygfaol sydd mor nodweddiadol o wlad llwyfandir yr ucheldir yn Pumlumon. Profiad pysgota brithyll brown traddodiadol o Gymru. Pysgota plu o’r lan yw’r rheol yn gyffredinol, er dylid gwirio’r rheoliadau gyda CB Tregaron AA pan yn ymweld.
Teifi Uchaf (Cymdeithas Bysgota Tregaron Angling Association)
Mae’r Afon Teifi yn llifo allan o ran ddeheuol ardal Pumlumon tuag at Tregaron ac mae rhywfaint o bysgota brithyll afon ar gael gan Gymdeithas Bysgota Tregaron sy’n rheoli llawer o’r pysgota yn y rhan hon, yn ogystal â bod â hawliau helaeth i’r de o Tregaron tuag at Llanbedr Pont Steffan. Mae’r Teifi, wrth gwrs, yn afon sewin ac eog nodedig, yn enwedig yn ei rhannau canol ac isaf.
HAWLENNI O:
Pontrhydfendigaid Post Office
Curiad Caron, Tregaron
London House, Llanddewi Brefi
Post Office, LLanfair Clydogau
Mr Alan Williams, Lampeter
Medical Hall, Tregaron
Sunnyside, Tregaron
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.




